SL(6)455 – Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Symiau Terfynau Ffioedd a Benthyciadau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024

Cefndir a diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio—

(a)   Rheoliadau Addysg Uwch (Symiau) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”),

(b)   Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”), ac

(c)   Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”).

Mae Rheoliadau 2015 yn rhagnodi uchafswm y ffioedd dysgu y gall sefydliadau a chanddynt gynllun ffioedd a mynediad ei godi am gyrsiau israddedig llawnamser (ac uchafsymiau is mewn cysylltiad â chyrsiau penodol). Mae rheoliadau 3 i 6 yn diwygio Rheoliadau 2015 i gynyddu'r symiau hynny ar gyfer blynyddoedd academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2024.

Mae'r Memorandwm Esboniadol yn cynnwys y crynodeb a ganlyn o'r capiau ffioedd dysgu diwygiedig:

 

Presennol

Newydd

Myfyriwr israddedig llawnamser

£9,000

£9,250

Blwyddyn olaf cyrsiau penodol

£4,500

£4,625

Blynyddoedd academaidd sy'n flynyddoedd lleoliad gwaith/rhyngosod

£1,800

£1,850

Blynyddoedd academaidd cyrsiau a ddarperir ar y cyd â sefydliad tramor

£1,350

£1,385

 

Mae Rheoliadau 2017 yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy'n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig sy'n dechrau cyn 1 Awst 2018. Mae rheoliad 7 yn gwneud cywiriadau i Reoliadau 2017.

Mae Rheoliadau 2018 yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy'n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2018.  Mae rheoliad 8 yn diwygio Rheoliadau 2018 i gynyddu uchafswm y benthyciad at ffioedd dysgu sydd ar gael i gategorïau penodol o fyfyrwyr sy’n ymgymryd â chyrsiau gyda darparwyr arferol yng Nghymru, sy’n cyfateb i’r uchafswm uwch o ran ffioedd dysgu y cyfeirir ato uchod.

 

 

Gweithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu’r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu, neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i’r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodir y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Mae rheoliad 7 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliadau 16(1), 19(1) ac 20(1) o Reoliadau 2017. Mae'r rheoliadau hynny'n gwneud darpariaeth i fyfyrwyr penodol fod yn gymwys i gael grantiau neu fenthyciadau at ffioedd mewn cysylltiad â'u presenoldeb ar gyrsiau dynodedig a ddarperir gan y cyrff a restrir yn rheoliad 5(1)(e) o Reoliadau 2017. Mae rheoliad 7 yn diwygio'r cyfeiriadau at y darparwyr hynny i gynnwys y cyrff a restrir yn rheoliad 5(1)(ea) o Reoliadau 2017 hefyd.

Disgrifir y diwygiadau a wneir gan reoliad 7 yn y nodyn esboniadol i'r Rheoliadau fel “cywiriadau”. Nid oes cyfeiriad pellach at y diwygiadau hyn yn y Memorandwm Esboniadol ac nid yw'r rheswm dros wneud y diwygiadau hyn yn glir ar unwaith.

Felly, gofynnir i Lywodraeth Cymru egluro diben y diwygiadau i Reoliadau 2017 a wneir gan reoliad 7.

2.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Mae rheoliad 8 yn diwygio Rheoliadau 2018 i gynyddu uchafswm y benthyciad at ffioedd dysgu sydd ar gael i gategorïau penodol o fyfyrwyr sy’n ymgymryd â chyrsiau yng Nghymru.

Yn y diwygiadau a wneir gan reoliad 8, nodir eu bod yn ymwneud â blwyddyn academaidd “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2024”. Fodd bynnag, mae'r nodyn esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn nodi bod y cynnydd “mewn cysylltiad â blynyddoedd academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2024.

Gofynnir i Lywodraeth Cymru egluro'r cyfnod y mae’r benthyciadau uwch perthnasol yn gymwys iddo.

 

 

Rhinweddau: craffu     

Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

3.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Ni fu unrhyw ymgynghori mewn cysylltiad â’r Rheoliadau hyn. Yn y Memorandwm Esboniadol, dywed Llywodraeth Cymru:

“Mae cynyddu gwerth y capiau ffioedd dysgu hyn yn ymateb uniongyrchol i'r pwysau chwyddiant parhaus a brofir gan ddarparwyr rheoleiddiedig. Mae'r rhain bellach yn rhy daer i'w hanwybyddu, yn enwedig felly pan fo cyllideb Llywodraeth Cymru dan bwysau eithriadol ac opsiynau eraill yn gyfyngedig. Er mwyn rhoi'r terfynau ffioedd newydd hyn ar waith cyn gynted â phosibl, a chaniatáu i ddarparwyr ddechrau cynyddu eu ffioedd a lleihau'r pwysau ariannol arnynt, penderfynwyd eu cyflwyno ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25 sy'n dechrau ar 1 Awst 2024. Roedd yr amser cyfyngedig a oedd ar gael i ddeddfu ar gyfer y newid hwn, o ystyried amseriad lansio gwasanaeth ymgeisio Cyllid Myfyrwyr Cymru ar gyfer israddedigion ym mis Mawrth 2024, yn golygu na fu modd cynnal ymgynghoriad.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru i’r pwyntiau adrodd technegol.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

28 Chwefror 2024